Pleidleisiau a Thrafodion - Y Cyfarfod Llawn


Lleoliad y cyfarfod:

Y Siambr - Y Senedd

Dyddiad y cyfarfod:
Dydd Mercher, 13 Rhagfyr 2017

Amser y cyfarfod: 13.30
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/
4666


108

------

<AI1>

1       Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg

Dechreuodd yr eitem am 13.30

Gofynnwyd y 9 cwestiwn cyntaf. Atebwyd cwestiynau 1, 6 a 7 gan Weinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes. Gwahoddodd y Llywydd lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet ar ôl cwestiwn 2.

</AI1>

<AI2>

2       Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Dechreuodd yr eitem am 14.19

Gofynnwyd y 7 cwestiwn cyntaf. Gwahoddodd y Llywydd lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet ar ôl cwestiwn 2.

</AI2>

<AI3>

3       Cwestiynau Amserol

Dechreuodd yr eitem am 15.08

Gofyn i Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus (atebwyd gan y Gweinidog Tai ac Adfywio):

David Melding (Canol De Cymru): O ystyried y ffigurau ar gyfer nifer y tai newydd a gaiff eu hadeiladu yng Nghymru a ryddhawyd yn ddiweddar, a wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet gadarnhau pam mae nifer y cartrefi newydd a gaiff eu hadeiladu yng Nghymru bob blwyddyn yn lleihau?

Gofyn i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid:

Simon Thomas (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad ynglŷn â'r rhesymau y bydd trothwy cychwynnol y dreth trafodiadau tir yn codi ar gyfer prif gyfraddau preswyl pan gaiff y dreth ei datganoli ym mis Ebrill 2018?

Adam Price (Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr): A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am gyflwyno cynllun rhyddhad ardrethi parhaol i fusnesau bach ar gyfer Cymru, yn dilyn ei gyhoeddiad heddiw drwy ddatganiad ysgrifenedig?

</AI3>

<AI4>

Pwynt o Drefn

Cododd Joyce Watson bwynt o drefn o dan Reol Sefydlog 13.9(v) ynghylch sylwadau a wnaeth Gareth Bennett AC y diwrnod cynt yn ystod dadl ar Adolygiad Blynyddol y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol 2016–2017.

Diolchodd y Llywydd i’r Aelod am ei Phwynt o Drefn. Roedd wedi adolygu’r cofnod yn y cyfamser ac, er ei bod yn cymryd o ddifrif hawl Aelodau’r Cynulliad yn y Siambr i wneud sylwadau na chânt eu gwerthfawrogi’n llawn gan Aelodau eraill, roedd hi o’r farn bod rhai o sylwadau Gareth Bennett yn arbennig o atgas a gwahaniaethol i’r gymuned drawsryweddol, yn enwedig y cyfeiriad at ‘wyro oddi wrth y norm’.

Rhoddodd y Llywydd gyfle i’r Aelod dynnu ei sylwadau yn ôl ac ymddiheuro i’r Siambr. Gan fod yr Aelod yn gwrthod ymddiheuro na thynnu ei sylwadau yn ôl, cyhoeddodd y Llywydd na fyddai’r Aelod yn cael ei alw i siarad yn y Siambr eto nes y byddai wedi gwneud hynny.

</AI4>

<AI5>

4       Datganiadau 90 Eiliad

Dechreuodd yr eitem am 15.37

Gwnaeth Mark Isherwood ddatganiad ar ostyngiad y boblogaeth o gylfiniriaid yng Nghymru.

</AI5>

<AI6>

5       Dadl ar Adroddiad y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig: Heb gyrraedd gwreiddyn y mater: uchelgais newydd ar gyfer polisïau coetiroedd

Dechreuodd yr eitem am 15.39

NDM6611 Mike Hedges (Dwyrain Abertawe)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig. 'Heb gyrraedd gwreiddyn y mater: uchelgais newydd ar gyfer polisïau coetiroedd', a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 28 Gorffennaf 2017.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

</AI6>

<AI7>

6       Dadl Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21(iv)

Dechreuodd yr eitem am 16.30

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio.

NDM6572

Lee Waters (Llanelli)
Mick Antoniw (Pontypridd)
David Melding (Canol De Cymru)
Nick Ramsay (Mynwy)
Hefin David (Caerffili)
Suzy Davies (Gorllewin De Cymru)
Mike Hedges (Dwyrain Abertawe)
David Rees (Aberafan)
Jenny Rathbone (Canol Caerdydd)
Julie Morgan (Gogledd Caerdydd)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn cydnabod pwysigrwydd rhwydwaith trafnidiaeth gyhoeddus fodern i leddfu'r pwysau ar rwydwaith ffyrdd Cymru.

2. Yn nodi'r dystiolaeth bod angen system trafnidiaeth gyhoeddus gwbl integredig - gan gynnwys teithio llesol - i ddarparu dewis amgen ymarferol a deniadol yn hytrach na defnyddio'r car.

3. Yn croesawu'r ymrwymiad i'r camau cyntaf tuag at metro de Cymru.

4. Yn cymeradwyo'r ymrwymiad i ddatblygu gweledigaeth ar gyfer metro i ogledd-ddwyrain Cymru, a dyrannu cyllid i ddatblygu achos amlinellol strategol ar gyfer metro Bae Abertawe, ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i ganfod cyllid ar gyfer astudiaethau dichonoldeb llawn fel cam nesaf.

5. Yn credu bod yn rhaid i Trafnidiaeth Cymru gael y pŵer i weithredu fel corfforaeth ddatblygu - gyda'r gallu i fanteisio ar y cynnydd mewn gwerthoedd tir mewn ardaloedd sy'n agos at orsafoedd metro - er mwyn denu rhagor o arian i ehangu'r rhwydwaith metro.

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

39

7

1

47

Derbyniwyd y cynnig.

</AI7>

<AI8>

7       Dadl Plaid Annibyniaeth y Deyrnas Unedig

Dechreuodd yr eitem am 17.18

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio.

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio:

NDM6612 Gareth Bennett (Canol De Cymru)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn credu y gellir defnyddio tai modiwlar fel elfen arloesol o'r broses o fynd i'r afael ag anghenion tai Cymru.

2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:

a) cynnal adolygiad o'r broses gynllunio i ddileu biwrocratiaeth a rhwystrau i unigolion sy'n dymuno adeiladu cartrefi modiwlaidd eu hunain;

b) sefydlu corfforaeth datblygu tai i gaffael safleoedd tir llwyd ar sail gwerth eu defnydd presennol a thrwy ddefnyddio prynu gorfodol os oes angen, pan nad yw safleoedd o'r fath wedi cael eu ddatblygu ers tair blynedd neu fwy; ac

c) ddatblygu cofrestr o safleoedd o'r fath a rhoi blaenoriaeth i ddatblygu cynlluniau tai modiwlaidd ar raddfa fach, i gymell unigolion sy'n dymuno adeiladu eu cartrefi eu hunain.

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

5

0

42

47

Gwrthodwyd y cynnig heb ei ddiwygio.

Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:

Gwelliant 1. Julie James (Gorllewin Abertawe)

Dileu pwynt 2 a rhoi yn ei le:

Yn cydnabod:

a) penderfyniad Llywodraeth Cymru i ddechrau adeiladu mathau newydd o dai yn 2017-18 drwy ei Rhaglen Tai Arloesol;

b) y bydd 7 o’r 22 cynllun y cymeradwywyd eu hariannu o dan y rhaglen eleni, yn cael eu hadeiladu’n defnyddio technegau modiwlaidd gyda chymorth cyfanswm o £5.6 miliwn o gyllid rhaglenni;

c) y bydd £71 miliwn pellach ar gael rhwng 2018/19 a 2019/20 er mwyn i’r rhaglen allu adeiladu hyd yn oed rhagor o gartrefi;

d) cynnydd sydd i’w groesawu yn y Gronfa Datblygu Eiddo i £40 miliwn, a fydd yn helpu BBaCh i adeiladu rhagor o gartrefi gan gynnwys tai modiwlar ac yn helpu i ddatblygu mwy o safleoedd adeiladu tai a’u symud ymlaen yn gyflymach.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

31

0

16

47

Derbyniwyd gwelliant 1.

Gan fod gwelliant 1 wedi’i dderbyn, cafodd gwelliant 2 ei ddad-ddethol.

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig fel y’i diwygiwyd:

NDM6612 Gareth Bennett (Canol De Cymru)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn credu y gellir defnyddio tai modiwlar fel elfen arloesol o'r broses o fynd i'r afael ag anghenion tai Cymru.

2. Yn cydnabod:

a) penderfyniad Llywodraeth Cymru i ddechrau adeiladu mathau newydd o dai yn 2017-18 drwy ei Rhaglen Tai Arloesol;

b) y bydd 7 o’r 22 cynllun y cymeradwywyd eu hariannu o dan y rhaglen eleni, yn cael eu hadeiladu’n defnyddio technegau modiwlaidd gyda chymorth cyfanswm o £5.6 miliwn o gyllid rhaglenni;

c) y bydd £71 miliwn pellach ar gael rhwng 2018/19 a 2019/20 er mwyn i’r rhaglen allu adeiladu hyd yn oed rhagor o gartrefi;

d) cynnydd sydd i’w groesawu yn y Gronfa Datblygu Eiddo i £40 miliwn, a fydd yn helpu BBaCh i adeiladu rhagor o gartrefi gan gynnwys tai modiwlar ac yn helpu i ddatblygu mwy o safleoedd adeiladu tai a’u symud ymlaen yn gyflymach.

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

42

0

5

47

Derbyniwyd y cynnig fel y’i diwygiwyd.

</AI8>

<AI9>

8       Cyfnod Pleidleisio

Dechreuodd yr eitem am 17.55

</AI9>

<AI10>

</AI10>

<AI11>

9       Dadl Fer

Dechreuodd yr eitem am 17.57

NDM6610 Mike Hedges (Dwyrain Abertawe)

Y diwydiant adeiladu yng Nghymru

</AI11>

<TRAILER_SECTION>

Daeth y cyfarfod i ben am 18.17

Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Cynulliad am 13.30, Dydd Mawrth, 9 Ionawr 2018</TRAILER_SECTION>

<LAYOUT_SECTION>

1.FIELD_TITLE

FIELD_SUMMARY

</LAYOUT_SECTION>

<TITLE_ONLY_LAYOUT_SECTION>

2.FIELD_TITLE

</TITLE_ONLY_LAYOUT_SECTION>

<HEADING_LAYOUT_SECTION>

FIELD_TITLE

</HEADING_LAYOUT_SECTION>

<TITLED_COMMENT_LAYOUT_SECTION>

FIELD_TITLE

FIELD_SUMMARY

</TITLED_COMMENT_LAYOUT_SECTION>

<COMMENT_LAYOUT_SECTION>

FIELD_SUMMARY

</COMMENT_LAYOUT_SECTION>

 

<SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

2.1FIELD_TITLE

FIELD_SUMMARY

</SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

 

<TITLE_ONLY_SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

2.2FIELD_TITLE

</TITLE_ONLY_SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>